Nid oes lleoliad canolog ym Methesda i ddathlu ein treftadaeth ddiwydiannol a chymdeithasol a hynny er ein hanes unigryw fel tref ôl-ddiwydiannol bwysig o fewn Safle Treftadaeth Byd Unesco i’r broydd chwarelyddol. Ein bwriad gyda Yr Hen Bost yw creu canolfan dreftadaeth gymunedol fydd yn codi ymwybyddiaeth, balchder a dealltwriaeth ein cymuned o hanes lleol gan wneud hynny fel canolfan loeren i Amgueddfa Lechi Cymru a chyrff cenedlaethol eraill. Bydd y ganolfan yn leoliad i addysgu pobl leol a thwristiaid diwylliannol i’r ardal yn sgil y dynodiad, gan wneud hynny trwy arddangosfeydd a gweithdai cymunedol ar y cyd a phartneriaid. Bydd adeiladwaith yr adeilad hefyd yn ddathliad o’n treftadaeth chwarelyddol gyda defnydd o lechen y Penrhyn a thraddodiad cerfio llechi yn yr adeiladwaith allanol. Byddwn yn adeiladu Canolfan Yr Hen Bost erbyn diwedd 2025 gan greu adeilad eiconig fydd yn datblygu treftadle o bwysigrwydd diwylliannol i’r ardal.
Evidence standard
A funding award is not a tender, a confirmed supplier budget or evidence that buying is open. Signals distinguish source-mentioned activity from possible supplier categories.
Supplier intelligence preview
0 possible supplier categories identified
Source facts remain public. Detailed reasoning and evidence excerpts use a Free preview or paid plan.